Switch to English en_GB

Croeso i Raglen Addysgiadol Cadeirlan Llandaf. Ein nôd yw galluogi ysgolion i ddefnyddio adnoddau cyfoethog y Gadeirlan fel profiad dysgu ac i annog plant i deimlo’n gartrefol yn y Gadeirlan. Yma, gall plant a phobl ifainc brofi rhyfeddod, myfyrio ar werthoedd, datblygu’u synnwyr o berthyn a’u hunaniaeth heb anghofio’u lle mewn hanes.

Mae’r teithiau’n cael eu harwain gan ein tîm o dywyswyr ac rydym yn cynnig ystod eang o bynciau fel y gwelir isod. Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol, cysylltwch â ni. Byddwn yn hapus i’ch helpu.

Mae Profiad Dysgu A yn cynnig ystod o bynciau’n ymwneud â Hanes ac Addysg Grefyddol.

Mae Profiad Dysgu B yn ymwneud ag Ysbrydolrwydd ac yn cyflwyno pererindod drwy brofiad.

Mae Profiad Dysgu C (I ddilyn) yn ymwneud â’r Cwricwlwm Celfyddydau ac yn cyplysu dysgu am agweddau o gelfyddyd o fewn y Gadeirlan gyda chreadigrwydd ymarferol.

Mae’n werth gwenud ymholiad mewn da bryd cyn eich ymlweliad er mwyn sicrhau lle yn y dyddiadur.

Ymweliadau Addysgiadol Arbenigol

Dewiswch un o’n profiadau dysgu unigryw ar gyfer eich ysgol er mwyn darganfod mwy. Dewiswch dri neu bedwar o’r pynciau canlynol. Mae pob pwnc yn cymeryd 25 munud. Bydd angen 15 munud ar y dechrau a’r diwedd ar gyfer rhagarweiniad a diweddglo o weddïo a myfyrio. Mae pob pwnc yn cael ei addasu ar gyfer Cyfnod Allweddol ac oed y myfyrwyr.

Ar ddechrau a diwedd pob taith, mae’r rhagarweiniad a’r diweddglo cymeryd 15 munud.

Gweler isod y pynciau sy’n cael eu trafod a’r amcanion dysgu neu ddolenni cwricwlwm:

Pwnc 1 – Darganfod y creiriau sydd i’w cael yn y Gadeirlan gan ddysgu’u henwau a sut y’u defnyddir o fewn addoliad.

Addysg Grefyddol: Ymchwiliwch I greiriau a delweddaeth grefyddol. Deallwch iaith grefyddol symbolaidd a chynyddwch eirfa gan ei ddefnyddio’n bwrpasol.

Pwnc 2 – Darganfod bwydydd, diodydd a dillad arbennig o fewn addoliad

Addysg Grefyddol: Archwiliwch gredoau, dysgeidiaeth ac arferion crefyddol. Byddwch yn ymwybodol o’r traddodiadau a’r dathliadau sydd yn agweddau pwysig o ddiwylliant Cristnogol Cymru.

ABCh: Datblygwch gôd moeseg bersonol y dysgwr gan fyfyrio ar gred bersonol a gwerthoedd moesol.

Pwnc 3 – Beth yw Sant? Pwy yw Sant Teilo?

Addysg grefyddol: Cyfle i archwilio sut mae crefydd wedi dylanwadu a thywys bywydau pobl yn y gorffenol ac ymchwiliwch i faterion sy’n codi drwy straeon crefyddol.

Hanes: (CA2) Adnabyddwch unigolyn arwyddocaol a deallwch pam y bu i bobl wneud pethau yn y gorffennol.

Ymholiad Hanes: (CA3) Pa mor bwysig oedd Oes y Saint Cymreig fel factor wrth ddylunio’r Eglwys yng Nghymru.
Addysg Grefyddol: Datblygwch rif wrth drefnu digwyddiadau mewn amser.

Hanes: (CA2) Defnyddiwch linell amser i roi digwyddiadau yn eu lle. Sut mae Oes y Saint a datblygiad Eglwysi Cadeiriol wedi ffurfio Cymru.

Pwnc 4 – Tŵf yr Eglwys Gadeiriol yn Llandaf o AD 560 hyd y presennol.

(CA3) Cronoleg: Cyfle i ymchwilio a deal digwyddiadau, pobl a lleoedd y gorffennol.

Deall achosiaeth a newid dros amser a sefydlu ymdeimlad o gronoleg.

Deall effaith y mae newidiadau gwleidyddol/crefyddol/cymdeithasol wedi’u cael ar hanes y Gadeirlan.

Fy mhererindod i

Dyma ymweliad drwy brofiad plenty i’r Gadeirlan lle y gallant ddysgu am bererindod i fangre sanctaidd a bydd ysgogiad iddynt weld eu bywyd fel pererindod neu siwrne o ffydd.

Yn ystod y daith, bydd plant yn gwisgo dilledyn pererin, yn casglu sticeri mewn ‘pasport pererin’ wrth bob arhosfan ac yn myfyrio ar eu taith eu hunain fel siwrne. Mae’r rhan olaf yn rhoi cyfle am waith celf creadigol ar y thema hwn.

Mae’r ymweliad yn cymeryd dwy awr ac yn gweithio orau gyda grŵp o ddim mwy na 30 o blant.

Gellir llogi ystafell fwyta ar gyfer cyfnod o amser cyn neu ar ôl yr ymweliad.

Anelir y profiad at blant Cyfnod Allweddol 2.

Addysg Grefyddol: Mae’r profiad yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliadol disgyblion drwy ofyn cwestiynau sylfaenol sy’n deillio o brofiad dynol ac am bwrpas bywyd.

Anogir disgyblion i gwestiynu gwerth a dyheadau eu bywyd eu hunain a bydd cyfle i brofi agwedd ysbrydol addoliad mewn Cadeirlan ac i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o Gristnogaeth ac ymdeimlad o Dduw.

ABCh: Datblygwch gôd moeseg bersonol y dysgwr a synfyfyriwch ar gred personol a gwerthoedd moesol.


Galeri

Ymweld â ni

Cadeirlan Llandaf, Y Swyddfa Weinyddol,
Tŷ’r Prebend,Llandaf, Caerdydd, CF5 2LA,

+44 2920 564 554

Oriau agor

Llun-Gwener: 8.00yb – 5.30yp
Sul: 8.00yb – 4.00yp

Related content