Y Gadeirlan yw calon cymuned Llandaf ac mae’n Fam Eglwys ar gyfer Esgobaeth Llandaf. Rydym yn croesawu nifer o grŵpiau cymunedol sy’n ymgynnull yn y Gadeirlan a Neuadd y Plwyf, gan gynnig cyfleoedd arbennig i gwrdd ag eraill.
Os hoffech ymuno, danfonwch neges neu gliciwch y botwm ised er mwyn canfod mwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli.
- 
  Cyngor Cymunedol Cadeirlan Llandaf (LCCC)
  Mae’r LCCC yn gorff etholedig sy’n gweithio gyda’r Cabidwl ar gynghori a datblygu’i strategaeth. 
- 
  Cyngor Ieuenctid y Gadierlan
  Mae Cyngor Ieuenctid y Gadeirlan yn cynnwys pobl ifainc 10-15 oed ac y neu galluogi i fod yn rhan a threfnu gweithgareddau a hyrwyddo’i syniadau o fewn cymuned y Gadeirlan. 
- 
  Plant y Gadeirlan
  Mae grŵp meithrin Plant y Gadeirlan yn rhoi cyfle i rieni gyd-chwarae gyda’u plant mewn awyrgylch ddiogel a hwylus. Mae’r grŵp yn cwrdd bob bore Mercher rhwng 9.15 a 11yb yn ystod tymor yr ysgolion. 
- 
  Grŵp Eco-Eglwys
  Mae’r Grŵp Eco-Eglwys yn bwyllgor o bobl uchelgeisiol sydd yn anelu at leihau ôl-troed Carbon y Gadeirlan ac yn hyrwyddo materion amgylcheddol. Derbyniodd y grŵp Wobr Efydd Rocha UK ac maent yn gweithio tuag at y Wobr Arian! 
- 
  Undeb y Mamau
  Mae gan Llandaf gangen weithgar o Undeb y Mamau sydd yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cynnal gwasanaethau yn y Gadeirlan. 
- 
  Urdd Sant Teilo
  Mae Urdd Sant Teilo’n cynnig cymuned gymrodorol ar gyfer gwragedd ac yn cwrdd yn fisol yn Neuadd y Plwyf. 

