Pleser gan y Deon a’r Cabidwl gyhoeddi, yn dilyn proses recriwtio trwyadl a thryloyw, bod yr ymddiriedolwyr wedi cymeradwyo apwyntiad Hefin Owen yn Ganon Lleyg ac ymddiriedolwr i’r elusen.
Fel cyfarwyddwr Rondo Media, mae Hefin yn gynhyrchydd radio a theledu adnabyddus iawn. Wedi graddio o Goleg Penfro, Caergrawnt, bu i Hefin ddechrau gweithio fel rheolwr stiwdio gyda Radio’r BBC. Ef oedd yn gyfrifol am ddarganfod a meithrin llais trebl Aled Jones, gan gynhyrchu’r rhelyw o’i recordiadau cynnar. Mae Hefin wedi cydweithio gyda llu o berfformwyr talentog, o Luciano Pavarotti i Kiri te Kanawa, o Bryn Terfel i Valery Gergiev. Mae Hefin wedi ennill myrdd o wobrau am ei raglenni, gan gynnwys gwobrau Celtic Media a Bafta Cymru am ei raglenni dogfen ar Llŷr Williams a Catrin Finch. Mae Hefin wedi mwynhau perthynas hir gyda’r Gadeirlan. Fel aelod o’r Urdd Stiwardiaid, mae’n mynychu’r Cymun ar y Sul am 11yb yn gyson ac mae’n Gymro Cymraeg. Mae gan Hefin ddau fab, ill dau yn gantorion yng nghôr y Gadeirlan.