Rydyn ni’n ffodus iawn yn Llandaf o gael organ gymharol newydd, a adeiladwyd gan Nicholson and Company o Malvern yn 2010 (www.nicholsonorgans.co.uk). Mae’n cynnwys 4,870 o bibelli, 80 o stopiau a 4 seinglawr. Un o’r meini prawf y bu’n rhaid i Nicholson ei gyflawni oedd llenwi’r Gadeirlan â sain heb orfod chwarae’r organ yn llawn drwy’r amser. Cyflawnwyd hynny’n wych drwy osod Adran Orllewinol i’r Organ Fawr sy’n seinio yng nghorff yr eglwys ac ychwanegu caeadau i flwch gorllewinol yr Organ Chwyddo sy’n cael ei rheoli o’r allweddellau wrth gyfeilio i’r gwasanaeth corawl ganol wythnos yn y Cwir. Mae’r casyn, a gynlluniwyd gan Simon Platt, wedi’i wneud o dderw ysgafn Americanaidd. Ystyrir mai dyma’r organ fwyaf ym Mhrydain i’w hadeiladu gan adeiladwr o Brydain ers canol y 1960au.