Mae cerddoriaeth wrth wraidd yr addoli yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac mae’r adran gerdd yn rhan annatod o fywyd y Gadeirlan o ddydd i ddydd. Mae gan gerddoriaeth y gallu i ddyrchafu a chysylltu pobl drwy weddi a mawl, ac rydyn ni’n ceisio hyrwyddo mwy o werthfawrogiad o’i gwerth drwy ddod â phobl at ei gilydd drwy rannu profiadau cerddorol ac addysgu pobl ifanc.
Mae cerddoriaeth yn ganolog i’n haddoli dyddiol gyda Gosber Corawl yn cael ei ganu gan Gôr y Gadeirlan bob dydd yn ystod yr wythnos ac yn ystod tymor yr ysgol, ac weithiau gan gorau gwadd yn ystod gwyliau’r ysgol.