Capel Mair
Gyda’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau yn 1280, mae Capel Mair wedi’i gyflwyno i’r Forwyn Fair, Mam yr Iesu. Yng nghanol y reredos, y sgrîn gerfiedig o’r 15fed ganrif tu ôl i’r allor, ceir delw o Mair a’r Baban Iesu gan A.G Walker a osodwyd yno ym 1934. Mae pob un o’r paneli euraid bob ochr, ddyluniwyd gan Frank Roper ym 1954, yn cynrychioli blodyn gwyllt sydd â’i enw Cymraeg yn coffàu Mair.
Mae’r gwydr lliw yn y ffenestr ddwyreiniol o’r 19eg ganrif yn cynrychioli ‘Cyff Jesse’, ac yn darlunio llinach Crist fel y’i ddisgrifir yn efengyl Matthew. Dyluniwyd pob ffenestr gan Geoffrey Webb rhwng 1920 a 1950.
Mae’r muriau a’r nenfwd, o waith stensil, hefyd gan Webb ac yn dyddio o 1908 ac fe’u hadferwyd ym 1988.
Mae beddrod Gwilym Brewys, Esgob Llandaf o 1266 hyd 1287 i’w weld aro chr ogleddol yr allor.
Yn y ddeunawfed ganrif, adnabuwyd y capel fel y Capel Cymraeg o ganlyniad i’r gwasanaethau Cymraeg a gynhaliwyd yno.
Capel Dyfrig
Er i’r capel gael ei adnabod yn wreiddiol fel Capel Mathew, mae’r gofod bellach wedi’i gysegru er cof am Dyfrig, Sant o’r chweched ganrif ac un o nawddsaint y Gadeirlan. Mae’r capel bach hwn yn hafan o heddwch, wedi’I neilltuo ar gyfer gweddïo a myfyrio tawel. I’r dde o’r allor, ceir cwpwrdd ambry, lle cedwir y Sacrament Bendigaid (bara a gwin a gysegrwyd yn ystod y Cymun). Uwchlaw, gwelir delw cyfoes o Ddyfrig gan John Excell. Uwchben yr allow, ceir paneli’n darlunio chwe niwrnod y cread, a ddyluniwyd gan yr artist o’r 19fed ganrif Burne-Jones ac a waned gan Harold Rathbone yng nghrochendy Della Robbia ym Mhenbedw rhwng 1893 a 1906.
Mae’r reredos garreg o’r canol oesodd oedd tu ôl i’r allor fawr yn wrieddiol bellach ar fur ogleddol y capel ynghŷd â dau feddrod teulu Mathew. Rhennir y capel gan sgrîn o waith pren a metal, ddyluniwyd gan Robert Heaton er côf am yr Archesgob Glyn Simon, Esgob Llandaf o 1957 hyd 1971.
Capel Dafydd
Fe’i adnabyddir fel Capel y Gatrawd Gymreig ac fe’i ddyluniwyd gan George Pace. Fe’i gysegrwyd ar yr 22ain o Fedi 1956 er côf am y rhai fu farw mewn rhyfeloedd ers y ddeunawfed ganrif. Mae tabledi pres ar y llawr ac ar dalcen y seddi’n coffàu swyddogion y Gatrawd Gymreig ac mae meini yn y mur ddwyreiniol yn dynodi’r brwydrau y bu i’r gatrawd ymladd ynddynt o 1792 hyd 1969.
Saif y Majestas canol-oesol yn erbyn piler cyntaf y capel. Yn wreiddiol roedd yn rhan o’r talcen gorllewinol hyd 1984.
Capel Illtud
Dyma gapel y 53fed yr Adran Droedfilwyr Cymreig. Tu ôl i’r allor, gwelir Triptych Rossetti – am ragor wybodaeth am y Triptych cliciwch yma.
Capel Teilo
Capel bach ym mhen dwyreiniol yr eil ddeheuol, gerllaw Capel Mair, yw Capel Teilo. I’r dde o’r allor, mewn creirfa, gwelir y benglog a briodolir i Sant Teilo mewn gosodiad art nouveau o waith arian. Dychwelyd y benglog i’r Gadeirlan o Awstralia ym 1994. Mae’r gwydr lliw yn y ffenstr ddwyreiniol o waith William Morris a Ford Madox Brown ac yn darlunio Crist y Brenin gyda Zachareas, tad Ioan Fedyddiwr ar y dde, ac Elizabeth gyda Ioan Fedyddiwr yn blentyn ar y chwith.
Capel Euddogwy
Nid yw’r capel hwn, oedd ym mhen dwyreiniol eil y gogledd, yn bodoli mwyach. Symudwyd ei allor I eglwys arall yn Dilyn adeiladu’r organ Newydd yn 2013. Saif cofebion cadwriaethol y llu awyr brenhinol yn ei safleoedd gwreiddiol.
Y Corff
Mae’r corff yn cael ei ddominyddu gan y bwa parabolaidd concrîd sy’n cynnal cist yr organ. Dyluniwyd hwn yn bulpudwm gan George Pace fel rhan o’r adferiad wedi’r rhyfel er mwyn gwahanu’r corff a’r côr, tra’n hwyluso golygfa ddi-dor drwy’r Gadeirlan o’r porth gorllewinol i Gapel Mair.
Mae’r corff yn cael ei ddominyddu gan y Majestas (Crist yn ei fawredd) gan Syr Jacob Epstein – am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Ar y llawr gerllaw’r mur deheuol, gwelir delw sydd yn honedig yn cynrychioli Henri, Prior y Fenni ac Esgob Llandaf o 1193 hyd 1218. Yn y gilfach gerllaw’r ddelw, gwelir cerflun pren Flemaidd o tua 1430 sy’n darlunio Cysgadrwydd Mair Fendigaid.
Y cerflunydd o Benarth, Frank Roper, sy’n gyfrifol am y cerflun efydd o Sant Ffransis yn pregethu i’r adar, a grëwyd yn 1991. Gwelir ei waith mewn rhannau eraill o’r Gadeirlan a nifer o eglwysi ledled yr esgobaeth, yn ogystal ag eglwysi yn Lloegr megis Cadeirlan Durham.