Mae’r Deon a’r Cabidwl wedi ymroi i gefnogi Adran Gerdd y Gadeirlan. Mae prosiect datblygu ar y gweill i gefnogi ac ehangu gweithgareddau’r adran yn well, ac i wella statws Eglwys Gadeiriol Llandaf fel hwb i greu cerddoriaeth ac addysg o’r radd flaenaf.
Bydd y prosiect yn helpu’r adran bresennol i ffynnu ac ehangu, ac i ymgysylltu â’r gymuned ehangach yn ninas Caerdydd ac Esgobaeth Llandaf. Yn ogystal â chynnal y safon uchel o gerddoriaeth y mae ein corau yn adnabyddus amdano, ein gweledigaeth yw creu ysgoloriaethau pellach ac ehangu mynediad i fwy o bobl i fod yn rhan o’r broses o greu cerddoriaeth yma yn y Gadeirlan. Ein nod yw mynd ag addysg cerddoriaeth i ysgolion lleol er mwyn cyrraedd plant a allai fod heb ddarpariaeth fel arall a chreu mwy o gyfleoedd iddyn nhw yn y Gadeirlan drwy grwpiau cerddorol newydd. Rydyn ni’n bwriadu rhoi Llandaf ar y map, yn lleol ac yn genedlaethol, fel Canolfan Gelfyddydol o’r radd flaenaf, o ran allbwn cerddorol, cyrhaeddiad ac addysg, ynghyd â’i phrif rôl fel man addoli hanesyddol.
Mae’r gwaith hwn wedi dechrau’n barod drwy greu rôl Animateur, prosiectau cerdd a chanu mewn ysgolion a Majestas Kids, grŵp cerdd i blant oed Cynradd. Rydyn ni wedi ein cyffroi a’n calonogi gan ddyfodol yr Adran Gerdd a phŵer cerddoriaeth i drawsnewid bywydau.
Rydyn ni wrthi’n chwilio am gyn aelodau o Gôr y Gadeirlan i adeiladu cymdeithas o gyn-aelodau, ac rydyn ni wastad yn awyddus i gysylltu â’r rhai sydd â diddordeb mewn cadw a sicrhau dyfodol cerddoriaeth y Gadeirlan ac i gyrraedd cymaint yn y gymuned â phosib.
Am fwy o wybodaeth, neu i ofyn am roi’n rheolaidd neu gymynroddion i gefnogi’r gwaith hwn, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr Cerdd stephenmoore@llandaffcathedral.org.uk.